Rydych chi mewn dwylo diogel

Adnewyddu presgripsiwn

Gellir ail-archebu presgripsiynau ar-lein os ydych wedi cofrestru ar Ap GIG Cymru.

Gellir gadael archebion adnewyddu presgripsiwn yn y bocs y tu allan i’r fferyllfa neu drwy eu postio/e-bostio/trwy'r ap.
Rhaid rhoi 72 awr o rybudd.

Ni fydd presgripsiwn sydd wedi ei adael yn hwyr ar nos Wener yn barod tan y dydd Mercher canlynol.

Yn Waunfawr, a fyddech mor garedig â pheidio â galw am bresgripsiwn sydd wedi ei ailadrodd tan ar ôl 1:30yp Llun – Gwener pe bai modd.

Dosbarthu cyffuriau

Cynigiwn wasanaeth dosbarthu cyffuriau yn y ddwy Feddygfa i gleifion cofrestredig.

I rai nad ydynt wedi cofrestru neu tu allan i oriau, mae siopau fferyllydd yn Llanberis a Chaernarfon.

Cyflenwad Brys o Feddyginiaeth

Os ydych yn rhedeg allan o Feddyginiaeth y tu allan i oriau agor y feddygfa ac angen eich meddyginiaeth ar frys, gallwch eu cael gan y Fferyllfa leol heb brescripsiwn. Plis ewch a’r papur misol (repeat prescription slip) neu bacedi o’ch meddyginiaeth gyda chi os yw’n bosibl.

Neu, cysylltwch gyda’r Meddygon teulu y tu allan i oriau ar 111.