Galwadau ffôn
Mae galwadau ffôn i mewn ac allan o’r feddygfa yn cael eu recordio ar gyfer ansawdd a diogelwch.Apwyntiadau
Ym Meddygfa Waunfawr gweithredir trefn apwyntiad gan y meddygon a'r clinigau. Gallwn weld apwyntiadau brys fel arfer o fewn 24 awr, ond mae'n bosibl y bydd oedi os gofynnwch am amser, dyddiad neu feddyg penodol.
Fe drefnwn apwyntiad brys ar unrhyw adeg, er enghraifft i ddelio â phoen yn y bol, plant â gwres uchel ayyb ond rydym yn erfyn arnoch i ffonio gyntaf fel y gellir eich gweld heb oedi mwy nag sydd raid. Gellir trefnu apwyntiad cyffredinol ymlaen llaw dros y ffôn neu trwy e-bost lle y cewch eich gweld o fewn 2-4 wythnos.
Yn anffodus, oherwydd natur ymgynghoriadau meddygol, ni allwn warantu y cedwir at yr union amser a drefnwyd.
Os oes gennych lawer o bethau i'w trafod gyda'r Meddyg ac angen apwyntiad hir, rhowch wybod i'r derbynnydd fel y gellir osgoi oedi hir i gleifion eraill.
Pan ffoniwch i drefnu apwyntiad, peidiwch â synnu os yw'r Nyrs neu'r Derbynnydd yn gofyn cwestiynau y credwch eu bod o natur bersonol neu amherthnasol. Gwneir hyn yn syml er mwyn trefnu'r apwyntiad rhydd cyntaf sydd ar gael, neu apwyntiad pryd y gall y meddyg roi'r sylw mwyaf priodol i'ch gofynion arbennig chi. Weithiau mae hefyd yn gyfle i'r Nyrs eich cynghori, neu dawelu eich pryderon wrth i chi aros i weld y Meddyg. Mae'n digwydd yn arbennig os yw'r Feddygfa'n llawn.
Ymweliadau cartref
Os dymunwch ymweliad cartref am fod y claf yn methu â dod i'r Feddygfa oherwydd ei salwch, a fyddech mor garedig â ffonio cyn 10 o'r gloch y bore. Gofynnir i chi ddweud beth yw'r prif symptomau, a gallwch drafod y mater gyda'r meddyg neu'r nyrs. Mae'r drefn hon yn sicrhau bod y Feddygfa'n rhedeg yn esmwyth gan roi sylw i'r materion brys yn gyntaf. Os ffoniwch yn hwyr, efallai na ellir dod i weld y claf tan y diwrnod canlynol oherwydd na fynnwn darfu ar drefniadau'r Feddygfa na'r Clinigau, gan achosi problemau i'r rhai a drefnodd apwyntiad. Ymdrinnir â galwadau brys yn y ffordd arferol, sef trwy bwyso a mesur eu blaenoriaeth ac ymateb yn ôl yr angen. Mae holl staff y dderbynfa yn gyfarwydd â'r trefniadau hyn a gallent eich cynghori ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen.
Cyfleusterau i'r anabl
Mae'r ddwy Feddygfa yn medru delio'n hwylus â gofynion yr anabl.
O flaen y drws ffrynt mae ramp, a chloch er mwyn cael cymorth. Ger y drws cefn mae canllaw y naill ochr a'r llall i'r grisiau. Mae hefyd ramp i fynd i mewn i’r fferyllfa, ynghyd â chanllaw. Lle bo angen, mae’r taflenni gwybodaeth ar gael mewn print mawr. Yn nerbynfa’r feddygfa bydd dolen glyw ar gael i rai trwm ei clyw. Os oes angen, mae modd i gleifion gael ymgynghoriad yn un o'r swyddfeydd ar y llawr gwaelod. Yn y toiled ar y llawr gwaelod mae sinc lefel-isel a chanllaw wedi eu gosod. Mae’n bosib gwneud cais am apwyntiad drwy ffonio (01286 650223), anfon llythyr neu drwy i berthynas/gynorthwywr wneud hynny ar eich rhan.
Canlyniadau profion
Gofynnir ichi ffonio neu alw yn y feddygfa i dderbyn canlyniadau profion rhwng 11:00 – 13:00.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y Feddygfa yn cysylltu â chi gyda chanlyniadau eich profion. Eich cyfrifoldeb chi yw ffonio neu alw heibio i holi amdanynt.
Teithio
Os ydych yn teithio dramor, cofiwch holi Nyrs y Feddygfa ynghylch unrhyw frechiadau angenrheidiol. Rhaid rhoi dau fis o rybudd i gwblhau ambell gwrs o frechiadau. Rydym yn cynnig brechiadau Polio, Typhoid, Hepatitis A a Cholera (tabledi) yn y feddygfa. Mae brechiadau eraill ar gael yn eich fferyllfa leol.
Imiwneiddio
Rhaid imiwneiddio pob oedolyn bob deng mlynedd rhag tetanws. Rydym hefyd yn cynnig brechiadau i rai mewn swyddi lle mae'r perygl heintiad yn uchel, er enghraifft yr Heddlu, nyrsys ac ati. Os credwch eich bod mewn swydd beryglus o'r fath, dylech drefnu i drafod y mater gyda Nyrs y Feddygfa.
Newid cyfeiriad neu newid eich rhif ffon
Os ydych yn symud i fyw, rhowch wybod i'r Derbynnydd cyn gynted â phosibl. Mae'n gymorth inni sicrhau bod y wybodaeth a gedwir amdanoch ar ein cyfrifiadur yn gywir, a'n bod yn anfon ein llythyrau apwyntiad i'r man cywir.
Cleifion newydd
Gofynnir i gleifion sydd eisiau cofrestru o’r newydd ddod i fewn i’r feddygfa i nôl pecyn cofrestru ac yna trefnu apwyntiad gyda Nyrs y Feddygfa i gael asesiad meddygol.
Bydd y pecyn yn amlinellu'r gofynion adnabod a bydd yn cynnwys ffurflenni i'w cwblhau. Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau a'r dogfennau adnabod gofynnol i'r tîm Derbynfa yn Waunfawr, ynghyd â'ch rhif GIG.
Ardal y feddygfa
Fe gofrestrir cleifion or pentrefi canlynol: Waunfawr, Llanrug, Pontrug, Rhos Isaf, Dinorwig, Bethel, Llanddeiniolen, Penisarwaun, Deiniolen, Llanberis, Nant Peris, Cwm-y-Glo, Caeathro, Betws Garmon, Rhyd-Ddu, Beddgelert, Bontnewydd, Rhostryfan, Rhosgadfan a Llanfaglan (at gyffordd troad Bontnewydd o gyfeiriad Caernarfon).
Pryderon, Cwynion ac Awgrymiadau
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth a gofal o safon uchel bob amser. Rydym yn croesawu eich adborth a’ch awgrymiadau, gan eu bod yn ein helpu i wella’r gwasanaethau a gynigiwn yn barhaus. Mae blwch awgrymiadau ar gael yn yr ystafell aros er hwylustod i chi.
Rydym yn cymryd pob pryder a chwyn o ddifrif. Os hoffech godi pryder neu wneud cwyn am y practis neu unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â Rheolwr y Practis yn y lle cyntaf, naill ai’n ysgrifenedig, drwy e-bost neu dros y ffôn. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fynd i’r afael â’ch pryderon yn brydlon ac yn deg.
Plis cliciwch yma i weld copi o’n Trefn Gwynion.
Cymorth ac Arweiniad
Mae Gwasanaeth Ymholiadau a Datrysiadau Pobl (PEARS) yn wasanaeth a gynigir gan GIG Cymru sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal a'r driniaeth orau bosibl ar draws pob gwasanaeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, mae cymorth ac arweiniad ar gael gan PEARS.
Ffôn: 03000 851234
E-bost: BCU.PEARS@wales.nhs.uk.
Gwefan: https://bipbc.gig.cymru/cleifion-ac-ymwelwyr/pears
Mae Llais (Gogledd Cymru) yn gorff statudol annibynnol yng Nghymru, ar wahân i Fwrdd Iechyd a all ddarparu gwasanaeth eiriolaeth a chymorth annibynnol am ddim i unrhyw un sy'n codi pryderon am y GIG a gofal a thriniaeth gymdeithasol.
Ffôn: 01248 679 284 / 01978 356178
E-bost: northwalesenquiries@llaiscymru.org.
Gwefan: https://www.llaiscymru.org
Mynediad at gofnodion meddygol
O dan y GDPR (DU), mae gan bawb yr hawl i weld a chael mynediad i’r wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt gan y feddygfa, i gael gwybod at ba ddiben y defnyddir eu data a gyda pwy y’i rhennir. Gall cleifion wneud cais unai wyneb-yn-wyneb, ar lafar neu yn ysgrifenedig (llythyr neu e-bost). Mae’n rhaid i gleifion sy’n gwneud cais brofi pwy ydynt trwy ddangos ffurf o ID a gofynnir iddynt hefyd lenwi a llofnodi ffurflen gydsynio.
Hawliau Cleifion
Mae gan y Practis a'i gweithwyr ddyletswydd gofal tuag eu cleifion a byddant bob amser yn anelu at ddarparu gwasanaethau i ddiwallu eu anghenion am ofal iechyd a thriniaeth sylfaenol.
Nôd y Practis a'i gweithwyr yw darparu gwasanaethau iechyd sy'n gydymdeimladol ac sy’n ymateb i anghenion eu cleifion o fewn yr adnoddau sydd ar gael a darparu gofal iechyd a thriniaeth briodol ac effeithiol i’w cleifion.
Mae'r Practis yn disgwyl i'w holl weithwyr drin eu cleifion â chwrteisi a pharch.
Polisi Hebryngwr
Mae ein practis wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd, urddas a diogelwch ein holl gleifion.
Rydym yn cydnabod y gall rhai ymgynghoriadau, archwiliadau a gweithdrefnau beri i gleifion deimlo'n anghyfforddus neu'n agored i niwed. Gellir darparu hebryngwr hyfforddedig i gynnig tawelwch meddwl a chefnogaeth yn ystod yr apwyntiadau hyn.
Eich hawl i hebryngwr
Gallwch ofyn am hebryngwr yn ystod unrhyw ymgynghoriad, archwiliad neu weithdrefn. Cynigir hebryngwr ar gyfer archwiliadau personol, fel archwiliadau'r fron, organau cenhedlu neu'r rectwm.
Bydd ein staff clinigol yn egluro pwrpas yr archwiliad a rôl yr hebryngwr cyn bwrw ymlaen. Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau neu godi unrhyw bryderon.
Pwy all weithredu fel hebryngwr?
Mae hebryngwr ffurfiol yn aelod o staff sydd wedi'i hyfforddi'n briodol i weithredu fel arsylwr diduedd. Byddant yn parchu eich preifatrwydd a'ch cyfrinachedd, yn cynnal eich urddas, yn cynnig tawelwch meddwl lle bo'n briodol ac yn codi unrhyw bryderon os oes angen.
Gall aelod o'r teulu neu ffrind fod yn bresennol i gael cefnogaeth ychwanegol, lle bo'n briodol, ond ni fyddai fel arfer yn disodli hebryngwr ffurfiol.
Sut i ofyn am hebryngwr
Os hoffech gael hebryngwr, rhowch wybod i'r derbynnydd wrth wneud apwyntiad, neu rhowch wybod i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn ystod eich ymgynghoriad.
Os nad oes hebryngwr addas ar gael, efallai y bydd angen aildrefnu eich apwyntiad, lle bo'n briodol yn glinigol, er mwyn sicrhau y gellir darparu ar gyfer eich dymuniadau.
Mae eich cysur, eich urddas a'ch lles yn bwysig i ni, a byddwn bob amser yn ceisio ein gorau i wneud eich ymgynghoriad mor ddiogel a chyfforddus â phosibl.
I weld copi llawn o’r polisi, gwnewch gais i’r Practis.
Cyfrifoldebau Cleifion
Byddaf yn trin staff y GIG, cleifion eraill, gofalwyr ac ymwelwyr yn gwrtais a pharchus bob amser.
Rwy'n derbyn ac yn deall bod yn rhaid i’r feddygfa ddarparu amgylchedd saff a diogel i'w staff a'i chleifion ac i ofalu am eu hiechyd a'u diogelwch.
Ni fyddaf yn ymddwyn mewn unrhyw ffordd y gellir ei hystyried yn dreisgar, bygythiol nac ymosodol tuag at aelodau staff na chleifion eraill.
Rwy'n deall bod gan staff y feddygfa yr hawl i gyflawni eu gwaith heb ofni cam-drin nac ymosodiad. Ymddygiad na oddefir (ymysg eraill):
Gwaherddir yfed alcohol, ysmygu a chymryd unrhyw fath o feddyginiaeth neu gyffuriau di-bresgripsiwn tra ar eiddo’r feddygfa.
Dileu oddi ar Restr y Feddygfa - Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw gleifion oddi ar restr y Feddygfa ar unwaith os dangosir unrhyw un o'r ymddygiadau uchod. Mewn achosion eithafol, efallai y bydd yr Heddlu'n rhan o'r broses.